The Wales Spatial Plan 2008 Update Consultation
A joint event between the
Welsh Assembly Government and RTPI Cymru
The Wales Spatial Plan 2008 Update
set in context for planners
A consultation on the Wales Spatial Plan Update 2008: People Places Futures is running for 12 weeks from 31st January to 24th April 2008. The document sets a vision for how each part of Wales should develop economically, socially and environmentally over the next 20 years and will guide the way the Assembly Government spends its money over the coming years.
A huge amount of cross-sector and partnership working has seen real progress made against the goals identified in the first Spatial Plan in 2004. It has helped achieve a joined up approach to complex issues such as transport, housing and settlement patterns for the first time, leading to more effective use of public finance.
The Welsh Assembly Government and RTPI Cymru are jointly holding two special consultation workshops to explore the issues which are specific to planning. These are in addition to the more general regional workshops. The workshops will be held in Cardiff and Bangor. The workshops will start at 10 and finish at 1pm with lunch.
* Cardiff, Wednesday 9th April 2008, Millennium Stadium, Cardiff
* Bangor, Thursday 10th April 2008, Technium CAST Parc Menai, Bangor
Registration
The event is free to attend but you must register by 31 March 2008. Please complete and return the registration form to:
E-mail: wales@rtpi.org.uk
By post: RTPI Cymru PO Box 2465, Cardiff CF23 0DS
http://new.wales.gov.uk/consultations/currentconsultation/improveps/wspconsult/?lang=en
image
Pobl, Lleoedd, Dyfodol: Ymgynghori ar Ddiweddaru Cynllun Gofodol Cymru 2008
Cyd-ddigwyddiad rhwng
Llywodraeth Cynulliad Cymru a RTPI Cymru
Gosod Diweddariad Cynllun Gofodol Cymru 2008 Mewn Cyd-destun i Gynllunwyr
Mae ymgynghoriad ar Gynllun Gofodol Cymru: Pobl, Lleoedd, Dyfodol yn rhedeg o 31ain Ionawr tan 24ain Ebrill 2008 am gyfnod o 12 wythnos. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer datblygiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pob rhan o Gymru yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, a bydd hefyd yn llywio'r ffordd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gwario'i harian yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Drwy gydweithio ar draws sectorau a thrwy weithio mewn partneriaeth, llwyddwyd i gymryd camau mawr ymlaen o ran y nodau a amlinellwyd yn y Cynllun Gofodol cyntaf yn 2004. Mae'r cynllun hwnnw wedi helpu i sicrhau ein bod, am y tro cyntaf, yn gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig ar faterion cymhleth megis trafnidiaeth, tai a phatrymau anheddu, ac mae wedi arwain hefyd at ddefnyddio arian cyhoeddus mewn ffordd fwy effeithiol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r RTPI Cymru yn cynnal dau weithdy arbennig i archwilio materion sydd yn benodol i gynllunwyr. Mae'r rhain yn ychwanegol i'r gweithdai mwy cyffredinol yn y rhanbarthau. Bydd y ddau weithdy yng Nghaerdydd a Bangor yn dechrau am 10 ac yn gorffen am 1 gyda chinio.
· Caerdydd, Dydd Mercher 9fed Ebrill 2008, Stadiwm y Mileniwm
· Bangor, Dydd Iau 10fed Ebrill 2008, Tecniwm CAST Parc Menai, Bangor
Cofrestru
Mae'r digwyddiad am ddim ond mae rhaid cofrestru erbyn 31 Mawrth 2008. Cwblhewch y ffurflen cofrestru a'i dychwelyd at:
E-bost: Wales@rtpi.org.uk
Drwy'r post: RTPI Cymru, Blwch SP2465, Caerdydd, CF23 0DS
No comments:
Post a Comment